Yn agos at orsaf drenau Caergybi sydd o fewn cyrraedd hwylus i fferi Stena Line


Yn agos at orsaf drenau Caergybi sydd o fewn cyrraedd hwylus i fferi Stena Line
Parc Cybi, Caergybi, Gogledd Cymru LL65 2UQ
Cyfeiriad Sat Nav: LL65 2UQ
Cyfarwyddiadau:
Wedi’i leoli oddi ar yr A55, ar ffordd Parc Cybi. Yn agos at orsaf drenau Caergybi.
Mae parcio am ddim ar y safle ar gael yn y gwesty hwn.
Wi-Fi am ddim drwy gydol eich arhosiad. Rydym yn hapus i gynnig Wi-Fi am ddim heb gyfyngiadau*. Mae’n golygu y gallwch bori ar y we gyhyd ag y mynnwch, yn unrhyw le yn y gwesty. Ystafelloedd wedi’u haerdymheru ***Cadwch yn gyfforddus gyda gosodiadau tymheredd yn eich ystafell y gallwch eu newid i siwtio’ch hun.
Ein gwely Hypnos moethus mawr iawn** yw gwely eich breuddwydion. Ewch i gysgu gyda’ch pen yn gorffwys ar fatres top clustogau hynod gyfforddus gyda dros fil o sbringiau poced yn eich cynnal i sicrhau’r cwsg esmwythaf erioed.
Rydym mor hyderus y cewch noson dda o gwsg, nes ein bod yn barod i roi eich arian yn ôl os na chewch gwsg braf. Dyma yw ein Gwarant Noson Dda.
Gwybodaeth am yr ystafell
*Cyfyngiadau ar ddyfeisiadau’n weithredol. Dim ond dyfeisiadau â phorwr gwe a’r gallu i gysylltu â gwasanaeth cyhoeddus sy’n gallu defnyddio’r rhwydwaith, gwiriwch i weld a yw eich dyfais yn addas. Gallwch gysylltu hyd at 3 dyfais â’r Ultimate Wi-Fi - gwiriwch fod eich dyfeisiadau’n addas cyn prynu. Telerau ac amodau gwasanaeth yn weithredol, gweler Wi-Fi am ddim neu Ultimate Wi-Fi am fanylion llawn. **Mae nifer fach o ystafelloedd yn cynnwys dau wely, gwely dwbl neu sengl. ***Mae’r rhan fwyaf o’n gwestai’n cynnig aerdymheru, gwiriwch fanylion eich gwesty ymlaen llaw.
Brecwast Llawn Premier Inn – o facwn, selsig ac wyau wedi’u coginio yn y ffordd o’ch dewis, i hash brown, ffa pob a phwdin gwaed, mae gennym ddigonedd o fwyd wedi’i goginio’n ffres i ddechrau eich diwrnod. Gallwch helpu eich hun i’n dewis cyfandirol hefyd. Brecwast Cyfandirol – dewiswch o blith eich detholiad cyfandirol blasus. Os yw eich bryd ar ffrwythau, grawnfwyd, neu gacennau ffres, bydd digon o ddewis i lenwi’ch plât.
Ydych chi am ymuno â ni am ginio nos? O fyrger neu stecen o’r ansawdd gorau i salad a phwdinau blasus, mae ein prydau’n cael eu paratoi’n ffres gan ein cogyddion gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau gan ein dewis dethol o gyflenwyr. Meal deal – ymlaciwch drwy fwynhau pryd blasus 2 gwrs* ac ar ôl noson dda o gwsg gallwch edrych ymlaen at frecwast blasus, wedi’i baratoi at eich dant!
*Unrhyw ddau gwrs o’n bwydlen min nos.
Bwyd i’r plantos. Mae hyd yn oed y rhai anoddaf i’w plesio’n mwynhau rhywbeth blasus a maethlon i’w fwyta. Gallwn gynnig eu holl ffefrynnau, o stecen a sglodion i frest cyw iâr wedi’i grilio. Mae ein holl brif brydau’n cynnwys o leiaf 1 o 5 y dydd eich plant. Hefyd, mae hyd at 2 o blant yn cael brecwast am ddim
*gall hyd at ddau o dan 16 oed fwyta brecwast am ddim pan fydd un oedolyn yn archebu Brecwast Llawn Premier Inn neu Meal Deal
Mae gwesty Caergybi Premier Inn wedi ei leoli yng nghanol y dref brysur hon ym Môn. Felly, os ydych chi’n hwylio i Iwerddon gyda fferi Stena Line Caergybi, yn mwynhau atyniadau hanesyddol fel Goleudy Ynys Lawd, neu’n gwylio adar ym Mharc Gwledig y Morglawdd, bydd teithio’n rhwydd pan fyddwch yn aros gyda ni. Mae gennym ddewis o brydau blasus i’ch temtio ym mwyty Thyme ar y safle, ac ar ôl i’ch diwrnod ddod i ben gallwch edrych ymlaen at noson dda o gwsg yn un o’n gwelyau Hypnos cyfforddus.
Ffôn: 0871 527 8000
Mae galwadau i rifau 0871 yn costio 13c y funud yn ogystal ag unrhyw gostau ychwanegol a godir gan eich gweithredwr ffôn. Mae galwadau i rifau 0333 yn costio’r gyfradd genedlaethol.